trawma
Mae trawma yn ymateb seicolegol i ddigwyddiad y mae system nerfol person yn ei ganfod fel rhywbeth sy'n peryglu bywyd iddo'i hun neu i eraill ac sy'n fwy na'i allu i ymdopi â'r emosiynau dan sylw. Er bod profiadau trawmatig yn aml yn cynnwys bygythiad i fywyd neu ddiogelwch, gall unrhyw sefyllfa sy'n gadael rhywun yn teimlo'n llethol ac ynysig arwain at drawma, hyd yn oed os nad yw'n cynnwys niwed corfforol.
Mae digwyddiadau trawmatig yn cael eu prosesu'n oddrychol gan wahanol unigolion oherwydd y gwahaniaethau yn eu magwraeth a'u profiadau bywyd blaenorol. Felly, mae pobl yn ymateb i ddigwyddiadau trawmatig tebyg yn wahanol; gall yr hyn a all fod ychydig yn ofidus i un unigolyn fod yn gwbl frawychus i un arall.
Trawma datblygiadol yn digwydd o ganlyniad i gam-drin, esgeulustod, a/neu adael yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn. Mae'n tarfu ar ddatblygiad niwrolegol, gwybyddol a seicolegol y baban neu'r plentyn a'u gallu i ymlynu wrth ofalwr sy'n oedolyn. Gall trawma datblygiadol ddigwydd pan nad yw rhieni neu ofalwyr yn ymwybodol o anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol eu plant, yn ogystal ag oherwydd cam-drin a/neu esgeulustod bwriadol. Gall plant â thrawma datblygiadol weld y byd fel rhywbeth anniogel neu fygythiol yn ei hanfod.
Mae angen i unigolion sydd wedi cael trawma allu teimlo'n ddiogel a rheoleiddio eu hemosiynau er mwyn ymdopi â'r lefelau o straen a bygythiad y maent yn aml yn eu teimlo. Bydd angen i oedolyn gyd-reoleiddio plant nad ydynt wedi cael eu dysgu sut i reoleiddio eu hemosiynau eu hunain, gan na fyddant yn gallu gwneud hyn ar eu pen eu hunain.
Cliciwch yma i wylio'r fideo o'r 'Arbrawf Wyneb Lonydd' sy'n dangos effaith profiad trawmatig ysgafn ar fabi.